Mae Chwarae Cymhleth yn gynllun chwarae arbenigol sydd wedi'i anelu at blant a phobl ifanc, 5-17 oed, sydd ag anableddau difrifol a chymhleth. Mae'r plant a'r bobl ifanc sy'n mynychu Chwarae Cymhleth yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu ag eraill mewn chwarae a chyfathrebu cymdeithasol a gallant fod yn sensitif i amgylcheddau sy'n orlawn ac yn llai rhagweladwy.
Mae'r cynllun yn cynnig lefelau uchel o gefnogaeth gan staff profiadol a hyfforddedig, niferoedd isel o blant, ac amrywiaeth o amgylcheddau diogel sy'n cynnig mannau tawel ac ardaloedd agored i redeg o gwmpas.
Mae cynlluniau chwarae gwahanol yn cael eu darparu drwy Ieuenctid a Chwarae ar gyfer y plant anabl hynny sydd ar adeg lle gallant elwa o gael eu hannog i ddatblygu eu rhyngweithio cymdeithasol.
Mae'r system atgyfeirio ar hyn o bryd AR GAU ar gyfer ceisiadau